Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 16 Chwefror 2017
Amser: 09.30 -
14.41
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3864
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Jayne Bryant AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Julie Morgan AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Dr Amanda Farrow, Royal College of Emergency Medicine Wales Dr Robin Roop, Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys Dr Martin Rolles, Pwyllgor Sefydlog Cymru o Goleg Brenhinol y Radiolegwyr Dr Toby Wells, Royal College of Radiologists Professor Keith Lloyd, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Dr M Sakheer Kunnath, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Professor Peter Barrett-Lee, Ymddiriedolaeth GIG Felindre Martin Jones, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dr Evan Moore, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Sharon Vickery, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Dr Philip Kloer, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
Staff y Pwyllgor: |
Claire Morris (Ail Glerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Angela Burns AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys a Choleg Brenhinol y Radiolegwyr.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion a Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Ddeoniaeth Cymru.
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3, 4 a 5.
8.1 Cyn cynnal y ddadl Cyfnod 1 ar 28 Chwefror a chytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), cytunodd y Pwyllgor, mewn egwyddor, ar y Drefn Ystyried a ganlyn at ddibenion trafodion Cyfnod 2 yn y pwyllgor:
Adran 3 i 26, Adran 2, Adran 27 i 52, Adran 54 i 91, Adran 53, Adran 92 i 124, Atodlen 1 i Atodlen 4, Adran 1, Teitl Hir.